LALLS 03

Ymgynghoriad ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol

Consultation on local authority leisure and library services

Ymateb gan: Chwaraeon Cymru

Response from: Sport Wales

 

 


 

Gwasanaethau Awdurdodau Lleol a Llyfrgelloedd - Ymchwiliad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
 
 Ymateb Chwaraeon Cymru
 A picture containing shape  Description automatically generated

Gwybodaeth am Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Rydyn ni'n cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol drwy'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Strategaeth Chwaraeon Cymru. Rydyn ni'n dosbarthu arian Llywodraeth Cymru a grantiau'r Loteri Genedlaethol; yn buddsoddi mewn chwaraeon elît ac ar lawr gwlad er mwyn galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu. Rydyn ni am i Gymru fod yn genedl fwy actif, iachach, sy'n cynnig cyfleoedd i bawb fod yn actif.

Mae Chwaraeon Cymru yn falch o allu ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i Wasanaethau Awdurdodau Lleol a Hamdden.

Sefyllfa bresennol darpariaeth gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol;

Rydyn ni'n gwybod bod darpariaeth hamdden awdurdodau lleol wedi wynebu amser anodd iawn ers nifer o flynyddoedd, gyda ffactorau yn amrywio o argyfwng Covid ac ar ôl hynny yn effeithio ar wasanaethau yn y ffyrdd canlynol: anhawster recriwtio, ffyrlo, costau ynni cynyddol, llai ffioedd aelodaeth a llai o bobl yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio gwasanaethau.

Er bod cymorth drwy'r pandemig wedi sicrhau bod y sector hamdden yng Nghymru yn gymharol wydn, nid yw hyn wedi diogelu darparwyr cyfleusterau yn erbyn yr argyfwng costau byw yn y dyfodol o ran llai o incwm, na'r gwariant cynyddol sy'n gysylltiedig â chwyddiant a chostau ynni cynyddol. Bydd cyfran sylweddol o'r cyfleusterau hamdden yng Nghymru, yn enwedig rhai â chyfleusterau pyllau nofio, dan bwysau gyda newidiadau i'r amserlenni o leiaf yn ganlyniad anochel.

Yn bwysig, mae llawer o'r stoc adeiladau yn hŷn na'r dyddiad y dylid eu hamnewid, ac mae offer hŷn mewn perygl o ddadfeilio, gan arwain at fwy o gostau eto os bydd angen cau am gyfnod. Fel y gwelwyd yn ystod y pandemig, yn aml mae angen llawer iawn o asesiadau technegol ac iechyd a diogelwch i ailagor hefyd.

Canfu UK Active fod gweithgareddau hamdden cyhoeddus yn cynhyrchu £3.3 biliwn mewn gwerth cymdeithasol o ran gwell iechyd, boddhad bywyd, a chyrhaeddiad addysgol bob blwyddyn, ac yn gweithio gyda rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.[1] Nododd Prifysgol John Moores Lerpwl yn 2020[2] hefyd bod canran fawr o wasanaethau adsefydlu ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy yn digwydd mewn mannau hamdden cyhoeddus. Gydag uchelgais Llywodraeth Cymru i adeiladu ar bresgripsiynu cymdeithasol, efallai y byddai pwysigrwydd stoc hamdden awdurdodau lleol yn dod yn bwysicach nag erioed.

Nid yn unig mae darparwyr yn bwysig yn eu cymunedau o ran cyflwyno rhaglenni iechyd a lles ar eu safleoedd, maent hefyd yn gyflogwyr pwysig yn yr economi leol. Mae Community Leisure UK yn dweud bod tua 3,000 o aelodau o staff ym maes hamdden awdurdodau lleol ar draws Cymru a bod nifer sylweddol o bobl 18–30 oed yn rhan o'r gweithlu.[3]

Yr heriau ariannol a gweithredol sy'n wynebu awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol hyn;

Yn ystod pandemig Covid-19, cafodd ymddiriedolaethau hamdden gymorth sylweddol drwy'r Gronfa Galedi i lywodraeth leol a llwyddodd i gael mynediad at gyllid penodol i’r sector a ddarparwyd gan Chwaraeon Cymru a thrwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol; cylch ariannu untro.

Roedd disgwyl y byddai 2022 yn flwyddyn bwysig i adferiad ymddiriedolaethau ac y byddem yn gweld mwy o bobl yn ôl mewn darpariaeth hamdden, fodd bynnag wrth i bwysau byd-eang gynyddu ar gostau bwyd a byw, gweithgaredd corfforol a gweithgareddau hamdden oedd rhai o'r pethau yr oedd pobl yn teimlo ei bod yn bosibl eu torri o'u cyllidebau, gan ychwanegu mwy fyth o bwysau ar ymddiriedolaethau hamdden awdurdodau lleol.

Bu cynnydd yng nghostau ynni hefyd. Mae Chwaraeon Cymru wedi ymateb i'r her hon drwy agor ei ffrydiau ariannu cyfalaf i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ar gyfer buddsoddiadau ynni gwyrdd, fel paneli solar, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr agenda cynaliadwyedd ac arwain at lai o gostau ynni ar yr un pryd. Ond mae cwmpas yr her yn ymestyn y tu hwnt i allu'r arian cyfalaf sydd ar gael i Chwaraeon Cymru.

Mae ein Traciwr Gweithgareddau Cymru wedi dangos diffyg hyder ar ôl y pandemig ymysg cyfranogwyr i gael mynediad at gyfleusterau hamdden. Wrth i gyfleusterau hamdden agor o ganol 2020 ymlaen, nododd llawer o ymatebwyr nad oeddent yn hyderus mynd i weithgareddau dan do.[4] Dechreuwyd gweld rhywfaint o welliant mewn hyder wrth i'r rhaglen frechu gael ei chyflwyno[5], er hynny roedd hyder yn dal yn isel. Roedd hyn yn cael ei yrru gan bobl â chyflyrau iechyd presennol, pobl hŷn a menywod.

Ond hyd yn oed nawr, dair blynedd wedi dechrau'r pandemig, mae bron i hanner oedolion Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo'n hyderus mewn cwrtiau dan do, nid yw dau o bob pump yn teimlo'n hyderus mewn stiwdios na neuaddau chwaraeon, ac mae dros draean yn teimlo'n ansicr mewn campfeydd/ystafelloedd iechyd a ffitrwydd. Mae'r duedd hon yn parhau i gael ei gyrru i raddau helaeth gan ymatebwyr benywaidd, yn ogystal â rhai hŷn.[6]

Ar ben hynny mae'r argyfwng costau byw hefyd yn cael effaith andwyol ar weithredu cyfleusterau hamdden. Mae dau o bob pump wnaeth ymateb i'n harolwg chwarterol yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, tra bod traean yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd y newidiadau i gostau byw.

Bydd y newid hwn mewn cyfranogiad yn effeithio ar nifer y cwsmeriaid sy'n talu ac sy'n gallu cael mynediad at gyfleusterau hamdden yng Nghymru. Yn wir, mae un o bob pedwar hefyd yn dweud bod y newidiadau i gostau byw yn golygu eu bod/y byddant yn newid i weithgareddau rhatach/am ddim, tra bod un o bob pump yn dweud y byddant/eu bod yn/wedi cymryd rhan mewn llai o weithgareddau y mae’n rhaid talu amdanynt neu maent yn gwario llai ar ddillad/offer chwaraeon.[7]

Mae trefniadau awdurdodau lleol a strategaethau ymadael lle mae modelau cyflenwi amgen wedi’u defnyddio yn aflwyddiannus;

Amh

Sut mae darparu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cyd-fynd â gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd;

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu rhaglen flaenllaw sy'n ymwneud â'i gwaith o ddarparu chwaraeon mewn awdurdodau lleol, a'i fuddsoddiad. Mae'r model Partneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol (RSP) yn elfen allweddol yn y gwaith o annog mwy o gydweithio o ran adnoddau, arbenigedd a chyfleoedd ymhlith cyrff cyhoeddus a phartneriaid mewn ardal leol.

Drwy’r Partneriaethau hyn, mae Chwaraeon Cymru yn hwyluso partneriaethau sy'n mynd y tu hwnt i ddarparwyr chwaraeon traddodiadol. Mae hyn yn golygu dod â gwahanol wasanaethau awdurdodau lleol ynghyd â chwaraeon a hamdden, ond hefyd partneriaid gwahanol gan gynnwys prifysgolion, cymdeithasau tai, elusennau'r trydydd sector, Cyrff Rheoli Cenedlaethol Chwaraeon ac eraill sy'n gallu gwella a chyflymu newid yn yr hyn y gall chwaraeon ei gynnig.

Cyflawnwyd y newid hwn drwy gyd-fynd â pholisïau gweithio rhanbarthol Llywodraeth Cymru a dymuniad i gefnogi cyfleoedd sy'n gallu mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ystyfnig o ran cyfranogiad ymhlith gwahanol adrannau o'r gymuned. Mae hefyd yn gydnabyddiaeth bod gan awdurdodau lleol nifer o ofynion sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i'w poblogaethau, a gyda dulliau gweithio clyfar ar draws cyrff cyhoeddus, elusennau, a mentrau sy'n darparu cynigion hamdden, dylai chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws ardal ddod yn fwy cynaliadwy.

Sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio modelau amgen o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru, a'r manteision tybiedig sy'n gysylltiedig â nhw;

Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn gweithio gyda chyrff gwahanol yn eu hardal i ddarparu datblygiad chwaraeon a chwaraeon. Mae rhai enghreifftiau o'r rhain isod.

Caiff darpariaeth datblygu chwaraeon yng Nghaerdydd ei gydlynu drwy Chwaraeon Caerdydd, sy'n cael ei chynnal gan MET Caerdydd.[8] Mae gan Chwaraeon Caerdydd raglenni sy'n ymwneud â chwaraeon cymunedol y maent yn eu defnyddio i geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac maent wedi llunio strategaeth ddyfrol gyda bwriadau allweddol o ran diogelwch a dysgu. Mae ei brosiect Symud Mwy yn cefnogi cymunedau llai actif drwy bresgripsiynu cymdeithasol; a chwaraeon iau i annog arferion iach gyda phobl ifanc.

Mae Newport Live yn cyflwyno Datblygiad Chwaraeon a Chelf yn ogystal ag ystod o gyfleusterau hamdden ac yn gweithio gydag ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol eraill ar ran Cyngor Sir Casnewydd. Cânt eu llywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr fel ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig ac maent yn cael eu gweithredu ar ran Cyngor Dinas Casnewydd. 

Menter gymdeithasol yn Hwlffordd yw Academi Cryfder Cymru (nid er elw ac er budd y gymuned). Caiff gwaith cymunedol ei oruchwylio gan Fwrdd o chwe chyfarwyddwr. Mae'r cwmni'n cael ei reoli'n wirfoddol gyda rhai swyddi cyflogedig rhan amser. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Pembrokeshire Leisure, yn cefnogi pobl leol drwy wahanol lwybrau chwaraeon, yn ogystal â’r gymuned, o grwpiau o weithgareddau i fenywod yn unig i sesiynau heneiddio da ac anabledd dysgu hefyd. Maen nhw hefyd yn bartner gydag ysgol gymunedol Gorllewin Hwlffordd i ddefnyddio cyfleusterau ar gyfer y gymuned.

Ymddiriedolaethau Hamdden. Yn debyg i gwmni Newport Live, mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu eu cyfleusterau hamdden drwy Ymddiriedolaethau Hamdden. Naill ai wedi’u sefydlu "yn fewnol" neu wedi'u comisiynu i ymddiriedolaethau mwy yn y DU fel Freedom Leisure neu GLL (Greenwich Leisure Limited).  Mae nifer o fodelau ar draws Cymru, sy'n cynnwys pob cyfleuster awdurdod lleol neu ddim ond nifer o safleoedd penodol.

Arfer da i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd lleol i genedlaethau'r dyfodol.

Mae llawer o fodelau gwahanol a allai weithio i gymunedau lleol. Mae enghreifftiau o'r uchod wedi nodi ymddiriedolaethau mwy yn y DU hyd at elusennau llai yn y gymuned. Ynghyd ag AB ac AU yn buddsoddi mewn cyfleusterau a darpariaeth gymunedol, fel Prifysgolion MET Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, y gallai pob un ohonynt gynnig cyfleoedd i'r gymuned leol ehangach yn ogystal â gwasanaethau i fyfyrwyr.

Actif Gogledd Cymru yw'r Bartneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol gyntaf i gael ei lansio ac mae ganddi dîm canolog i reoli'r gwaith o lywodraethu a chyflawni ei strategaeth a'i darpariaeth ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddwr rhanbarthol, rheolwr partneriaeth a swyddog cymorth busnes. Mae'r bartneriaeth go iawn yn cynnwys y chwe awdurdod lleol (Conwy, Ynys Môn, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam) a'u cyflawnwyr gweithgareddau, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Prifysgolion Glyndŵr a Bangor, Chwaraeon Anabledd Cymru, gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol GwE a'r chwe chymdeithas tai.

Drwy'r bartneriaeth hon maent yn anelu i gyflawni eu gweledigaeth 10 mlynedd sef ‘cael pawb yng Ngogledd Cymru yn fwy actif, gan fyw bywydau iachach a hapusach', yn ogystal â'u cenhadaeth 10 mlynedd 'mae gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at fannau a lleoedd diogel; cyfleoedd amrywiol i fod yn actif bob dydd'.

Mae llawer o'r modelau hyn yn estyn allan y tu hwnt i ddarpariaeth hamdden draddodiadol ac i fyd addysg, eu cymunedau, a chanolbwyntio ar grwpiau unigol sy'n llai actif, ac sydd â llai o gyfle i fod yn actif.

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda'r meysydd eraill fydd yn dod yn Bartneriaethau Chwaraeon er mwyn archwilio'r math o fodel gweithio a fydd yn briodol iddynt. Ar hyn o bryd mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru yn gweithio tuag at sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant.

Mae'r tri arall, sef Canol De Cymru, Gwent, a'r Canolbarth yn cael eu datblygu, a'r disgwyl yw y byddant yn weithredol i dderbyn cyllid Chwaraeon Cymru erbyn mis Ebrill 2024.

Wedi'u grymuso i sicrhau newid yn y system, nhw fydd y catalydd i fynd i'r afael â dau fater hirsefydlog:

  1. Sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir yn eu lle ar gyfer y rhai nad ydynt yn actif yn gorfforol yn rheolaidd - gan ganolbwyntio'n glir ar gael gwared ar rwystrau i'r rhai sydd fwyaf angen yr help;
  2. Cymryd camau i ateb y galw cudd uchel gan y rhai sy'n actif ond sydd eisiau gwneud llawer mwy.

Pa bynnag fodel gweithio sy'n cael ei ddewis, mae’r manteision i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, elusennau, endidau ym maes iechyd, tai ac addysg sy'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chyfraddau cyfranogi isel yn yr ardal y maent wedi'u lleoli ynddi yn gyfle newydd a chyffrous i wella cynaliadwyedd gweithgarwch corfforol a’r hyn sydd gan chwaraeon i’w gynnig.

Emma Henwood

Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Mawrth 2023



[1] UK Active, The Decade of Change for Public Leisure, Gorffennaf 2021, ar gael yn https://www.ukactive.com/wp-content/uploads/2021/07/The-Decade-of-Change-for-PSL.pdf (cyrchwyd 8 Mawrth 2023)

[2] Prifysgol John Moores Lerpwl, Why the fitness and leisure sector should be awarded ‘essential service’ status – gan Professor Greg Whyte OBE, Tachwedd 2020, ar gael yn https://www.ljmu.ac.uk/about-us/news/articles/2020/11/17/unnamed-item (cyrchwyd 8 Mawrth 2023)

[3] Community Leisure UK, Adroddiad Cymru, Cost of living report, Public Leisure in Crisis, Tachwedd 2022, ar gael yn https://communityleisureuk.org/work/latest-sector-landscape-reports/#wales-crisis (cyrchwyd 7 Mawrth 2023)

[4] Chwaraeon Cymru, Data Savanta ComRes, Arolwg 2, Hydref 2020, ar gael yn https://www.chwaraeon.cymru/comres/comres-survey-2/, cyrchwyd 1 Mawrth 2023

[5] Chwaraeon Cymru, Data Savanta ComRes, Arolwg 3, Mawrth 2021, ar gael yn https://www.chwaraeon.cymru/ymchwil-a-gwybodaeth/comres/arolwg-comres-3-mawrth-2021/, cyrchwyd 1 Mawrth 2023

[6] Chwaraeon Cymru, Data Savanta ComRes, Arolwg 7, Ionawr 2023, ar gael yn https://www.chwaraeon.cymru/ymchwil-a-gwybodaeth/comres/arolwg-traciwr-gweithgareddau-cymru-7-ionawr-2023/, cyrchwyd 6 Mawrth 2023

[7] Ibid

[8] https://cy.sportcardiff.co.uk/home, cyrchwyd 8 Mawrth 2023